SL(5)205 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygiad) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 i wneud darpariaeth drosiannol bellach mewn perthynas ag achos penodol lle mae prydles tymor sefydlog yn parhau am gyfnod o fwy na blwyddyn ar ôl ei dyddiad terfynu cytundebol (a elwir yn gyfnod "dal drosodd"), ac fe'i hadnewyddir a'i hôl-ddyddio wedyn i ddiwrnod yn ystod y cyfnod dal drosodd. 

Pan fo'r amodau ym mharagraff 8(1) o Atodlen 6 i Dreth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 wedi'u bodloni, yna yn unol ag 8(3) o'r Atodlen honno, mae'r rhent sy'n daladwy o dan y brydles newydd yn cael ei leihau at ddibenion treth trafodiadau tir gan swm y rhent trethadwy sy'n daladwy mewn perthynas â'r denantiaeth dal drosodd.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y gostyngiad y cyfeirir ato uchod yn gymwys o ran prydlesi a roddwyd cyn 1 Ebrill 2018 ond a adnewyddwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, er bod y rhent oedd yn daladwy yn ystod y daliad yn gymwys ar gyfer treth dir y dreth stamp.

Y weithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn [sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad]:

Gwnaed y Rheoliadau hyn ar 22 Mawrth 2018, eu gosod ar 23 Mawrth 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2018.

 

Yn unol ag adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, lle na chaiff copi o unrhyw offeryn statudol sy'n ddarostyngedig i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei osod gerbron y Cynulliad o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn ddod ar waith, rhaid anfon hysbysiad i'r Llywydd gan dynnu sylw at y ffaith honno ac esbonio pam.

 

Trwy lythyr dyddiedig 23 Mawrth 2018, hysbysodd Llywodraeth Cymru y Llywydd fod y "rheol 21 diwrnod" uchod wedi'i thorri o ran y Rheoliadau hyn. Mae'r llythyr yn cadarnhau mai dim ond yn ddiweddar y daeth swyddogion y Llywodraeth yn ymwybodol o'r amgylchiadau penodol a fyddai'n arwain at sefyllfa lle gallai trethiant dwbl ddigwydd (hynny yw, Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir mewn perthynas â'r un trafodyn) a bod y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud felly i amddiffyn trethdalwyr rhag y perygl o dalu trethiant dwbl. Mae'r dyddiad dod i rym yn cyd-daro â chychwyn y drefn Treth Trafodiadau Tir. Nid yw'r esboniad felly'n ymddangos yn afresymol.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

27 Mawrth 2018